Hafan

Mae eiriolaeth yn darparu cymorth a help i chi pan fyddwch eich angen fwyaf

Yn ystod pandemig Covid 19, hoffem eich sicrhau chi y bydd ein Heiriolwyr Annibynnol yn parhau i:

  • Wrando arnoch chi
  • Eich cynorthwyo i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed
  • Eich helpu i wneud dewisiadau gwybodus
  • Eich helpu gyda chyfarfodydd (er y gallai’r rhain gael eu cynnal mewn gwahanol ffordd) a siarad gyda gwasanaethau gyda chi
  • Eich helpu i ddeall ac arfer eich hawliau
  • Rhoi gwybodaeth i chi am ddeddfwriaeth frys a’r hyn y mae’n ei olygu i chi.
  • Efallai y bydd yn rhaid i ni newid y ffordd yr ydym yn gweithio gyda chi er mwyn eich diogelu chi ac eraill, ond byddwn yn darganfod ffyrdd o’ch cynorthwyo chi o hyd.

Pwy ydym ni?

Rydym yn bartneriaeth o eiriolwyr profiadol a chymwys a gomisiynir gan awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i ddarparu Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol yn Gymraeg neu yn Saesneg ar draws y dair sir.  Rydym wedi cael ein cydnabod am ragoriaeth ein darpariaeth wrth sicrhau marc perfformiad ansawdd (QPM) am wasanaethau eiriolaeth.

Advocacy Quality Mark Logo

Mae ein gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim, mae’n gyfrinachol ac mae’n annibynnol ar yr holl wasanaethau eraill.

Beth yw Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol?

Gallwch fanteisio ar y gwasanaeth hwn:

  • Os ydych chi’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro ac os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn AC
  • Os oes gennych chi anghenion gofal cymdeithasol a chymorth neu’n gofalu am rywun sydd ag anghenion cymorth AC
  • Os yw’ch angen i gael gofal a chymorth yn cael ei asesu neu’n cael ei adolygu neu os oes gwaith cynllunio yn cael ei wneud ar gyfer eich anghenion gofal a chymorth NEU
  • Os ydych chi’n rhan o ymchwiliad diogelu NEU
  • Os oes gennych chi gŵyn am unrhyw un o’r rhain yn ddiweddar A
  • Cheir rhwystrau sy’n eich atal rhag codi eich llais neu rhag cymryd rhan lawn mewn prosesau gofal cymdeithasol AC
  • Nid oes gennych chi unrhyw un arall y byddech yn dymuno iddynt eirioli ar eich cyfer

Beth yw Eiriolaeth?  Gwyliwch ein fideo …………..

Mae eiriolaeth yn golygu cynorthwyo pobl i siarad o blaid eu hunain, gan sicrhau y gwrandawir ar eu safbwyntiau a’u dymuniadau, a’u bod yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus wrth geisio manteisio ar wasanaethau gofal cymdeithasol.  Mae eiriolwyr yn cynorthwyo pobl i arfer eu hawliau cyfreithiol a dynol.

Bydd eiriolwr yn:

Siarad gyda chi ac yn darganfod yr hyn sy’n bwysig i chi

Darganfod a oes pethau yr hoffech eu newid yn eich bywyd.

Ni fydd eiriolwr yn:

  • Gwneud penderfyniadau ar eich rhan – bydd eiriolwr yn trafod eich dewisiadau gyda chi, ac yn eich cynorthwyo i wneud eich penderfyniad eich hun.
  • Ailadrodd unrhyw beth y byddwch yn ei ddweud wrthynt oni bai eich bod chi yn dweud bod hynny’n iawn, neu oni bai eich bod chi neu rywun arall mewn perygl.

Os hoffech atgyfeirio eich hun neu atgyfeirio rhywun arall, neu os hoffech siarad ag eiriolwr, FFONIWCH:  rhadffôn 0800 2061387