Beth yw Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol?

Mae Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol yn cynnwys partneriaeth un i un rhwng eiriolwr proffesiynol annibynnol sydd wedi’i hyfforddi i weithio fel eiriolwr proffesiynol am dâl. Mae Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol yn wasanaeth sy’n gallu cynorthwyo rhywun i gymryd rhan yn llawn mewn penderfyniadau am eu lles a sicrhau bod eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn cael eu clywed, eu parchu a’u hystyried. Mae Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol yn cynorthwyo pobl i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal, i fynegi eu barn, i wneud penderfyniadau am bethau sy’n effeithio arnynt, ac i gyflwyno’r safbwyntiau hyn mewn cyfarfodydd.

“Mae eiriolaeth yn cymryd camau i helpu pobl i ddweud beth mae nhw’n eisiau, sicrhau eu hawliau, cynrychioli eu buddiannau a chael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae eiriolwyr a chynlluniau eiriolaeth yn gweithio mewn partneriaeth â’r bobl mae nhw’n cefnogi ac yn cymryd eu hochr. Mae eiriolaeth yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. (Action for Advocacy, 2002)